Pam V
Dwy awr o gwsg
Ti a fi yn ddau annatod
Dwy awr o gwsg
Tafod am dafod a llygad wrth lygad
Clystan gan blys, mae'n ysgol brofiad
Pam fi? Pwy a wyr? Pwy sy'n gwrando ar dy lais?
Pam fi? Pwy a wyr? Pam na?
Dwy awr o gwsg
Cysgodion yn nofio'n esmwyth
Dwy awr o gwsg
Pa mor dynn aeth llafn y gwregus?
Dy ben mor gryf ath gorff mor fregus
Pam fi? Pwy a wyr? Pwy sy'n gwrando ar dy lais?
Pam fi? Pwy a wyr? Pam na?
Gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely...
Pam fi? Pwy a wyr? Pwy sy'n gwrando ar dy lais?
Pam fi? Pwy a wyr? Pam na?
Gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely, gwely...